Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
26 Ebrill 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13315
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1, 3, 4, 7 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 14.21
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.08
Gwnaeth Mabon ap Gwynfor ddatganiad am - Ynys Enlli – Noddfa awyr dywyll gyntaf yn Ewrop.
Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad am - Illtyd Lloyd 1929-2023, Arolygydd Ysgolion 1963-1982, Prif Arolygydd Addysg 1982-1990, hyrwyddwr addysg Gymraeg a bathu geirfa Mathemateg cyfrwng Cymraeg.
Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad am - Mis Ymwybyddiaeth Anhwylderau Cyn Mislif (Ebrill).
5 Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y rheolau ynghylch gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol
Dechreuodd yr eitem am 15.14
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus – Craffu ar Gyfrifon Llywodraeth Cymru 2020-21
Dechreuodd yr eitem am 15.23
NDM8246 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei ymchwiliad, Craffu ar Gyfrifon Llywodraeth Cymru 2020-21, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Mawrth 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl Plaid Cymru - Ailddynodi HS2
Dechreuodd yr eitem am 16.07
NDM8245 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ailddynodi HS2 fel prosiect i Loegr yn unig, a rhoi'r symiau canlyniadol sy'n ddyledus i Gymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Cyfnod Pleidleisio
Nid oedd Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.06
NDM8225 James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Y ffordd wledig o fyw: saethu a'i fudd i'r amgylchedd a'r economi
Daeth y cyfarfod i ben am 17.31
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 2 Mai 2023